Llun: Chumwa
Mae Tatariad y Crimea sy’n rhedeg busnes yng Nghaerfyrddin wedi dweud bod “loes” alltudiaeth ei bobol union 70 mlynedd nôl wedi dod yn fyw eto ers i Rwsia feddiannu’r penrhyn.

Mae Rwsia wedi gwahardd pobol rhag ymgynnull yn sgwâr dinas Simferopol heddiw, 70 mlynedd ers i’r Undeb Sofietaidd dan Joseph Stalin alltudio chwarter miliwn o Datariaid y Crimea i ddwyrain yr Undeb Sofietaidd.

Yn ôl Ruzi Ruzyyev, sy’n rhedeg busnes golchi ceir yng Nghaerfyrddin ac sydd wedi priodi merch o’r dre, mae poen yr alltudiaeth yn 1944 wedi dod yn fyw eto.

“Roedden ni’n meddwl ein bod ni’n rhydd ond nawr rydyn ni’n mynd nôl i’r hen drefn pan oedden ni’n rhan o’r USSR,” meddai Ruzi Ruzyyev, a gafodd ei fagu yn Tajikistan ond a ddychwelodd i’r Crimea gyda’i deulu pan ddychwelodd y Tatariaid i’r penrhyn ar ôl cwymp yr Undeb Sofietaidd.

“Mae fy mherthnasau i’n gofidio yno. Does neb yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd. Mae gan ddynion Rwsiaidd arfau ac mae straeon bod pobol yn cael eu bwlio, a chafodd Tatariad ei ladd ar ôl mynd i orsaf filwrol oedd bellach yn nwylo’r Rwsiaid.”

Ym mis Mawrth boicotiodd y Tatariaid refferendwm y Crimea a arweiniodd at roi’r penrhyn ym meddiant Rwsia.

Bosnia arall?

Dywed Ruzi Ruzyyev ei bod hi’n dawelach yn y Crimea nawr nag ym mis Mawrth ond bod y Tatariaid, sy’n cynrychioli tua 15% o’r boblogaeth, yn nerfus am eu dyfodol.

“Dyw hi ddim yn hawdd bod yn Fwslim yn Rwsia ac mae nifer o bobol dwi’n nabod wedi gadael am orllewin Wcráin a thu hwnt. Hyd yn oed y rheiny oedd â swyddi da ac sydd â phlant.”

“Fe all bethau droi’n gas yno heddiw os bydd Tatariaid yn cwrdd yn Simferopol i gofio’r alltudiaeth,” meddai.

“Ein gofid ni yw bod y Crimea yn troi mewn i Fosnia arall. Petai trais rhwng Tatariaid a Rwsiaid fe allai arwain at lanhau ethnig, a byddai Rwsia yn medru cyfiawnhau hynny trwy ddweud eu bod nhw’n gwaredu ar deroristiaid.

“Mae Rwsiaid eisioes yn meddwl amdanon ni fel Natsïaid, diolch i bropaganda dros y blynyddoedd,” meddai.

‘Fyddwn ni fyth yn Rwsiaid’

Ddydd Iau dywedodd Vladimir Putin wrth arweinwyr y Tatariaid mai yn Rwsia mae eu dyfodol nhw bellach, nid yn Wcráin, ac mae wedi datgan bod y Crimea bellach wedi dychwelyd i’r “famwlad.”

Ond dywed Ruzi Ruzyyev na fydd y Tatariaid yn derbyn hynny.

“Wnawn ni ddim troi’n Rwsiaid na derbyn bod yn rhan o Rwsia,” meddai.

“Rydyn ni’n dod o’r Crimea ac eisiau ymreolaeth i’r Crimea, o fewn ffiniau’r Wcráin.”

Dywed Ruzi Ruzyyev fod newid y ffiniau ers i Rwsia feddiannu’r penrhyn wedi dryllio’i fwriad i fynd yno dros yr haf.

“Mae gan fy ngwraig a fy mhlant basports Prydeinig a byddai’n rhaid inni ymgeisio am fisa Rwsiaidd er mwyn ymweld â’r Crimea. Does dim sicrwydd y cawn ni hawl i fynd yno.”