Fe ddaeth yn amlwg fod y Llywodraeth yn Lloegr yn ystyried defnyddio nwy i ladd moch daear, ar ôl cais rhyddid gwybodaeth.

Mae’n ymddangos bod profion wedi eu cynnal gyda charbon monocsid ar ôl methiant dau gyrch i saethu’r anifeiliaid, sy’n cael y bai am ledu diciâu mewn gwartheg.

Mae’r newyddion wedi cael ei gondemnio gan ymgyrchwyr hawliau anifeiliaid, sy’n canmol Llywodraeth Cymru am eu polisïau nhw.

‘Edrych tros y ffin’

“Byddai’n syniad da i weinidogion adran DEFRA edrych ar draws y ffin,” meddai Mark Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol yr Humane Society International UK.

“Mae Llywodraeth Cymru’n gwneud gwaith da iawn o reoli diciâu mewn gwartheg mewn fordd ddynol ac effeithiol trwy ddelio â’r gwartheg.”

Roedd yn dadlau y byddai defnyddio nwy yn gallu anafu moch daear heb eu lladd.

Y cefndir

Tra bod Llywodraeth Cymru wedi canslo cynllun i ddifa moch daear, roedd Llywodraeth Lloegr wedi rhoi cynnig ar ddau gynllun arbrofol i saethu’r anifeiliaid.

Ond, yn ôl y dystiolaeth a ddaeth o Wlad yr Haf a Swydd Caerloyw, doedd yr un o’r ddau gyrch wedi dod yn agos at gyrraedd y targed o ladd 70% o foch daear yn y ddwy ardal.