Stuart Hall adeg yr achos cynharach
Mae’r rheithgor yn achos y darlledwr Stuart Hall yn ystyried eu dyfarniad ar 20 o gyhuddiadau ei fod wedi treisio ac ymosod yn andweddus ar ddwy ferch rhwng 13 ac 16 oed.

Roedd cyn gyflwynydd newyddion a’r sioe It’s a Knockout wedi penderynu peidio â rhoi tystiolaeth yn Llys y Goron.

Wrth gloi, roedd ei gyfreithwyr wedi awgrymu mai achos o “erlid” ac nid o “erlyn” oedd y cyhuddiadau.

‘Cymryd mantais’

Roedd y ddwy ferch, sydd bellach yn ganol oed, yn honni bod y darlledwr wedi rhoi diod iddyn nhw ac yna cymryd mantais arnyn nhw.

Roedd nifer o’r ymosodiadau honedig wedi digwydd yn stiwdios y BBC ym Manceinion, lle’r oedd Stuart Hall yn gweithio yn y cyfnod dan sylw, rhwng 1976 ac 1981.

Mae Stuart Hall, sy’n 84 oed, eisoes yn y carchar ar ôl pledio’n euog mewn achos cynt i  ymosod yn andweddus ar 13 o ferched ifanc.

Y tro yma, mae wedi mynnu bod y merched wedi cytuno i gael rhyw.