Pet Shop Boys
Mae trefnwyr Gŵyl Rhif 6 wedi cyhoeddi mai’r ddeuawd bop Pet Shop Boys fydd un o uchafbwyntiau’r ŵyl yr haf yma.
Cyhoeddwyd heddiw fod y grŵp – sy’n enwog am ganeuon fel West End Girls a It’s a Sin – yn ymuno hefo’r DJs Laurent Garnier a Todd Terje ym mhentref Portmeirion ar benwythnos 5-7 Medi.
Rhai o’r artistiaid eraill sydd eisoes wedi eu cadarnhau yw Beck, London Grammar, Martha & the Vandellas a Rhys Ifans.
A bydd Geraint Jarman a’i fand, Kizzy Crawford , Cian Ciarán o’r Super Furrys, Sŵnami, Yr Ods a Casi hefyd yn ymddangos ar y llwyfan Cymraeg.
‘Anhygoel’
Dywedodd y cyfarwyddwr, Bradley Thompson mai dyma’r “lein-yp gryfaf” mae’r ŵyl erioed wedi ei weld:
“Rydym yn hynod o gyffrous i groesawu grŵp mor eiconig â’r Pet Shop Boys i Ŵyl Rhif 6,” meddai.
“Maen nhw’n un o fandiau mwyaf Prydain ac maen nhw’n anhygoel yn fyw.
“Ynghyd ag artistiaid eraill fel Laurent Garnier a Todd Terje, dyma lein-yp gryfaf erioed yr wyl, ac mae’n cadarnhau statws Gŵyl Rhif 6 fel y lle gorau i fod i gloi tymor yr haf.”