Mae cynlluniau i gynnal streic dridiau gan weithwyr London Underground wedi’i ganslo.

Y bwriad oedd cynnal streic oherwydd cynlluniau i gau gorsafoedd tocynnau y Tube. Ond, yn dilyn trafodaethau munud ola’, fydd y gweithwyr ddim yn cerdded allan am 9yh heno.

Mae aelodau undeb yr RMT wedi dod i gytundeb gyda chynrychiolwyr LU (London Underground).

Mae hyn, meddai’r undeb, yn golygu fod streic wedi’i gohirio “am y tro”.