Mae arlywydd Nigeria, Goodluck Jonathan, wedi gorchymyn y gwasanaethau diogelwch, swyddogion ysgol a’r wladwriaeth fod yn “rhaid gwneud popeth o fewn eu gallu” i ryddhau 276 o ferched sydd wedi’u dal yn gaeth gan eithafwyr Islamaidd.
Mae hefyd, meddai, yn hyderus fod Nigeria yn “ennill y frwydr” yn erbyn gwrthryfel Islamaidd diweddar yn y wlad.
Mae dwy fom yn ystod y tair wythnos diwetha’ wedi lladd tua 100 o bobol ac anafu mwy na 200 yn y brifddinas, Abuja.
“Dyw hynny ddim yn golygu fod pethau’n gwaethygu,” meddai Mr Jonathan ddoe. “Dw i’n credu ein bod yn llwyddo yn y frwydr.”
Ond mae mwy na 1,500 o bobol wedi marw yn ystod ymladd eleni, o gymharu gyda 3,600 o bobol rhwng 2010 a 2013.
Mae’r “gwrthryfel” yn cael ei gysylltu gyda mudiad Boko Haram.