Y ddiweddar Anne Maguire
Mae dyn 42 oed wedi cyfadde’ rhoi neges anweddus ar wefan gymdeithasol Twitter, yn cyfeirio at lofruddiaeth yr athrawes ysgol uwchradd, Anne Maguire.
Fe fu Robert Riley o Bort Talbot o flaen ynadon yn ninas Leeds heddiw, ac fe gyfaddefodd ei fod yn euog o gyhoeddi neges “anweddus iawn neu faleisus ei natur”.
Chafodd y negeseuon ddim eu darllen allan yn y llys, ond fe glywodd y llys fod rhai ohonyn nhw’n cyfeirio at lofruddiaeth yr athrawes 61 mlwydd oed yn y Corpus Christi Catholic College yn Leeds yr wythnos ddiwetha’.
Fe glywodd yr ynadon fod yn rhaid i Robert Riley gael ei ddedfrydu yn lle y cafodd y negeseuon eu hanfon, ac fe gytunon nhw i drosglwyddo’r achos i Lys Ynadon Abertawe.
Mae Robert Riley, o Dan Y Coed, Cwmafon, Port Talbot, wedi’i ryddhau ar fechniaeth amodol.