Mae’r gwasanaethau brys yn chwilio am 11 o aelodau o griw llong gargo a suddodd wedi gwrthdrawiad gyda llong fawr yn y dyfroedd ger Hong Kong.

Mae un dyn wedi’i achub gan gwch bysgota yn dilyn y ddamwain a ddigwyddodd ychydig cyn toriad gwawr mewn dyfroedd rhyngwladol.

Roedd y llong gargo 320 troedfedd yn cario sment, ac roedd wedi’i chofrestru yn China. Fe suddodd wedi mynd ben-ben gyda llong 985 troedfedd.