Mae beth bynnag ddau o bobol wedi bodd, ac mae tua 30 ar goll, wedi i ddau gwch yn cario ymfudwyr suddo ar ei ffordd i wlad Groeg.

Fe suddodd y badau tua pedair milltir i’r gogledd o ynys Samos ger arfordir Twrci.

Mae 36 o bobol wedi’u hachub o’r môr.

Yn ôl rhai sydd wedi goroesi’r ddamwain, roedd tua 65 o bobol ar y ddau gwch.

Fe fu gwylwyr y glannau, cychod pysgotwyr a dwy hofrennydd chwilio ac achub, yn chwilio am bobol sydd ar goll.

Dyw hi ddim yn glir ar hyno bryd o lle’r oedd yr ymfudwyr yn dod.