Ty'r Arglwyddi
Mae arglwydd sydd eisoes wedi bod yn y carchar am gamddefnyddio costau mewn helynt unwaith eto am y costau mae’n ei hawlio yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Mae disgwyl i Bwyllgor Breintiau ac Ymddygiad Tŷ’r Arglwyddi argymell gwahardd yr Arglwydd Hanningfield tan yr etholiad nesaf, yn ôl adroddiad yn y Daily Mirror.

Dangosodd ymchwiliad gan y papur fod yr Arglwydd Hanningfield wedi bod yn hawlio lwfans cynhaliaeth o £300 y diwrnod am 19 diwrnod ym mis Gorffennaf y llynedd. Fodd bynnag, llai na 40 munud a dreuliodd yn Nhŷ’r Arglwyddi ar 11 o’r 19 diwrnod hynny.

Mae disgwyl i’r pwyllgor ei orfodi i ad-dalu £3,300 am yr ymweliadau byr hynny.

Roedd wedi ceisio cyfiawnhau’r costau wrth y papur ar y sail fod arno angen talu i ddyn edrych ar ôl ei ieir tra oedd yn y senedd.

Cafodd yr Arglwydd Hanningfield, cyn-arweinydd Ceidwadol Cyngor Sir Essex, ei garcharu am naw mis yn 2011 am hawlio costau ar gam.

Roedd ei hawliadau twyllodrus bryd hynny’n cynnwys hawlio costau gwesty yn y Llundain pan nad oedd yno.