Nigel Farage (Llun: PA)
Mae arweinydd Ukip, Nigel Farage, wedi cyfaddef fod gan ei blaid ‘ambell i idiot’ ar ôl i un o ymgeiswyr Ukip yn etholiadau cynghorau sir Lloegr gyhoeddi sylwadau eithafol ar Twitter.
Roedd Harry Perry, a oedd yn sefyll am sedd ar gyngor Stockport, wedi dweud y dylid ‘niwcio’ Pacistan, mai ‘plant y diafol’ yw Mwslimiaid, ac wedi gwawdio’r Prif Weinidog David Cameron fel ‘gay-loving nutcase’.
Wrth ymateb i’r sylwadau, meddai Nigel Farage:
“Doeddwn i erioed wedi clywed am y dyn tan neithiwr. Does gen i ddim syniad pwy ydyw.
“Dw i’n meddwl ei fod yn dod o ogledd-orllewin Lloegr. Mae’n amlwg fod ei agwedd a’u farn yn gwbl anghyson â bod yn aelod o Ukip.”
Dywedodd llefarydd ar ran Ukip fod Harry Perry bellach wedi cael ei wahardd o’r blaid.
‘Sylw anghymesur’
Ar yr un pryd, mae Nigel Farage yn cyhuddo’r cyfryngau o roi sylw anghymesur i sylwadau o’r fath gan aelodau Ukip o gymharu ag aelodau pleidiau eraill.
“Fe allwn ddangos ichi 14 o gynghorwyr etholedig o blith y Democratiaid Rhyddfrydol, y Blaid Lafur a’r Blaid Dorïaidd sydd nid yn unig wedi dweud pethau drwg, ond wedi cael eu dedfrydu eleni am wneud pethau drwg.
“Ac eto, dyw hyn byth yn gwneud pennawd cenedlaethol.
“Oes, mae gennym ambell i idiot. Ond yr hyn sy’n digwydd yw bod y sefydliad yn tynnu sylw at ddyrnaid o sylwadau annifyr gan bobl Ukip gan anwybyddu pan mae pleidiau eraill yn dweud ac yn gwneud y pethau yma.”
Lansio poster arall
Fe wnaeth Nigel Farage ei sywladau wrth lansio poster arall gan Ukip ar gyfer etholiadau Ewrop.
Mae’r poster hwn eto’n canolbwyntio ar fewnfudo fel thema. Mae’n dangos llun o risiau symudol drwy ganol clogwyni gwyn Dover gyda’r geiriau: ‘Dim ffin. Dim rheolaeth. Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi agor ein ffiniau i 4,000 o bobl bob wythnos’.
Dywedodd y bydd y poster yn cael ei osod ar gannoedd o safleoedd ledled y Deyrnas Unedig ddydd Llun.
“Os nad oes ar y gwleidyddion eisiau trafod mewnfudo, dw i’n meddwl y bydd y neges syml hon yn cael i cyhoedd i siarad am y pwnc.”