Mae dwy ferch ysgol wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth wrth i’r heddlu barhau i ymchwilio i honiadau am gynllwyn i lofruddio athrawes.
Cafodd y merched, 14 a 15 oed, eu harestio yn Ysgol Uwchradd Cwmcarn ym mwrdeistref sirol Caerffili ddydd Iau yn sgil pryderon am eu hymddygiad.
Roedd un o athrawon yr ysgol wedi hysbysu’r heddlu am y cynllwyn honedig. Pwysleisiodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent nad oedd “unrhyw wrthdaro corfforol” wedi digwydd.
Roedd y ferch 15 oed wedi cael ei harestio ar amheuaeth o fygythiadau i ladd, bod â llafn yn ei meddiant ar dir yr ysgol ac o gynllwyn i gyflawni llofruddiaeth.
Roedd y ferch 14 oed wedi cael ei harestio ar amheuaeth o gynllwyn i gyflawni llofruddiaeth.
Neges gan y brifathrawes
Yn y cyfamser, mae prifathrawes yr ysgol, Jacqui Peplinski wedi cyhoeddi llythyr ar wefan yr ysgol i dawelu meddwl rhieni:
“Efallai y byddwch chi’n gwybod bod pryderon wedi cael eu codi am ddisgybl yn yr ysgol ddoe.
“Hoffem eich sicrhau inni ymdrin yn ddi-oed â’r pryderon hyn. Nid oedd unrhyw risg i unrhyw aelod o staff nac unrhyw ddysgwr, a chysylltwyd â’r gwasanaethau cymorth perthnasol rhag ofn.
“Mae Ysgol Uwchradd Cwmcarn yn amgylchedd diogel ac mae gennym ymrwymiad i ddiogelwch pawb. Cysylltwch â ni ar unwaith os oes gennych chi unrhyw bryderon.”