Peaches Geldof
Mae adroddiadau’n awgrymu y bu farw Peaches Geldof o ganlyniad i or-ddôs o heroin, wrth i’r cwest i’w marwolaeth agor heddiw.

Dydy ei theulu ddim wedi ymateb i’r adroddiadau hyd yma, a dydy’r heddlu ddim wedi cadarnhau na gwadu’r adroddiadau.

Cafodd ei chorff ei ddarganfod yn ei chartref yn Swydd Gaint ar Ebrill 7.

Roedd profion post-mortem a gafodd eu cynnal yn aneglur ac fe fu’n rhaid cynnal profion pellach.

Yn ôl papur newydd The Times, fe fu farw yn yr un modd â’i mam, y gyflwynwraig Paula Yates yn 2000.

Dywedodd llefarydd ar ran y teulu nad oedden nhw’n awyddus i wneud sylw.

Mae disgwyl i’r cwest i’w marwolaeth gael ei agor a’i ohirio heddiw yn Gravesend.

Bydd y gwrandawiad yn clywed datganiad gan yr heddlu heddiw.

Mae disgwyl i gwest llawn gael ei gynnal ym mis Gorffennaf.

Adeg ei marwolaeth, dywedodd ei thad, Syr Bob Geldof mai ei ferch Peaches oedd “y fwyaf gwyllt, y fwyaf doniol, y fwyaf clyfar, y fwyaf digri a’r fwyaf boncyrs ohonon ni i gyd”.