Nigel Farage
Cafodd taith Nigel Farage yng nghanol dinas Abertawe ei chanslo brynhawn ddoe am “resymau diogelwch”.
Yn ôl rhai aelodau UKIP oedd wedi ymgynnull yn Stadiwm Liberty neithiwr, roedd arweinydd y blaid wedi derbyn cyngor gan yr heddlu i beidio canfasio yn y ddinas.
Roedd yna bryderon y gallai protestwyr yn erbyn polisïau UKIP achosi risg i ddiogelwch y cyhoedd.
Roedd disgwyl i ddegau o bobol ddod at ei gilydd i herio Farage wrth iddo gyrraedd canol y ddinas.
Yn y pen draw, cwta ddeg o bobol oedd wedi ymgynnull ond roedd adroddiadau am ambell ffrwgwd.
Protest yn y Liberty
Fe drodd y protestwyr eu hegni’n ddiweddarach at y cyfarfod cyhoeddus yn Stadiwm Liberty neithiwr, gan ymgasglu y tu allan i brif fynedfa’r stadiwm o leiaf awr cyn i’r digwyddiad ddechrau.
Roedd y protestwyr yn groch ond yn drefnus wrth i’r cyhoedd gyrraedd ar gyfer y cyfarfod a cherdded heibio i faneri a phosteri.
Dangosodd y protestwyr eu dicter i’r sawl oedd yn cerdded trwy’r gatiau diogelwch ac i mewn i’r adeilad.
Roedd aelodau UKIP yn eu siwtiau a’u dillad porffor i ddangos eu cefnogaeth i’r blaid.
Nod y protestwyr, fodd bynnag, oedd tynnu sylw at bolisïau mewnfudo UKIP y maen nhw’n dadlau sy’n hiliol.
Roedden nhw’n gyfuniad o aelodau undeb Unsain a Phlaid y Gweithwyr Sosialaidd.
Y cyfarfod cyhoeddus
Farage oedd y prif siaradwr yn y digwyddiad cyhoeddus, oedd hefyd yn gyfle i UKIP gyflwyno’u prif ymgeisydd yng Nghymru, Nathan Gill.
Roedd y tri ymgeisydd arall o Gymru – James Cole, Caroline Jones a David Rowlands yn y gynulleidfa.
Bydd yr etholiadau’n cael eu cynnal ar Fai 22.
Mae’r blaid wedi derbyn cryn feirniadaeth yn ddiweddar, yn bennaf yn sgil eu hagwedd at fewnfudwyr a nifer o sylwadau sarhaus am bobol o leiafrifoedd ethnig.
Yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd ymgeisydd UKIP ar gyfer etholiadau’r cyngor yn etholaeth Enfield yn Llundain, William Henwood y dylai’r digrifwr Lenny Henry fynd i fyw mewn “gwlad ddu” – sy’n gyfeiriad cynnil at yr ardal yng Nghanolbarth Lloegr lle cafodd ei eni.
Yn ogystal, fe gymharodd crefydd Islam â’r Trydydd Reich yn yr Almaen.
Mae Henwood bellach wedi rhoi’r gorau i fod yn ymgeisydd ac wedi gadael y blaid.
Ddydd Mawrth, gofynnodd tafarn yng Nghaerfaddon i Nigel Farage beidio â chanfasio ar y safle.
Dywedodd perchennog y Bell Inn fod croeso i arweinydd UKIP yn y dafarn fel cwsmer, ond roedd yn anfodlon am fod criw teledu wedi ceisio ffilmio sgwrs y tu fewn i’r adeilad.
Stori: Alun Rhys Chivers