Betsan Powys
Mae Dyfodol i’r Iaith wedi gosod her i Radio Cymru i wella eu gwasanaeth Cymraeg, yn dilyn cwynion am safon iaith y cyflwynwyr a’r gormodedd o ganeuon Saesneg sy’n cael eu chwarae gan yr orsaf.
Mewn llythyr at Bennaeth Rhaglenni Cymraeg a Golygydd Radio Cymru, Sian Gwynedd a Betsan Powys, mae’r mudiad yn dweud fod dirywiad wedi bod yn ansawdd y gwasanaeth ers i gyflwynwyr newydd gymryd yr awenau eleni.
Yn sgil hynny, mae Dyfodol i’r Iaith yn credu y byddai’n well rhannu Radio Cymru yn ddwy orsaf – un i apelio at y to ifanc a’r llall yn wasanaeth mwy cynhwysfawr ac amrywiol o ran newyddion, drama ac adloniant.
Yn y llythyr, mae Dyfodol i’r Iaith yn holi’r BBC: “Pa gyngor a chyfarwyddyd sy’n cael ei roi i gyflwynwyr rhaglenni am y defnydd o Gymraeg llafar naturiol mewn unrhyw dafodiaith yn hytrach na bratiaith a thermau Saesneg?
“A ydyn nhw’n derbyn hyfforddiant ynglŷn â hynny, a ydyn nhw’n cael eu goruchwylio’n feunyddiol, ac a ydyn nhw’n derbyn cyngor ac arweiniad?”
Rhannu’r orsaf yn ddwy
Gan dynnu sylw at ymgyrch rhai o gerddorion Cymraeg i wrthod cydweithredu gyda Radio Cymru, mae’r mudiad yn galw am sefydlu dwy orsaf newydd – Radio Pop a Radio Pawb.
Byddai’r naill yn targedu’r ifanc a’r dysgwyr gydag arlwy o gerddoriaeth ac iaith lafar gyfoes, tra bo’r llall yn wasanaeth mwy cynhwysfawr ac amrywiol o ran newyddion, drama ac adloniant gyda cherddoriaeth amrywiol Gymraeg yn unig.
“Yn anffodus, nid yw’r newidiadau diweddar wedi llwyddo i wella gwasanaeth Radio Cymru o gwbl, ac mae angen adolygu’r sefyllfa ar frys cyn i’r orsaf Gymraeg golli ei cherddorion ifanc a’i chynulleidfa draddodiadol” meddai Eifion Lloyd Jones ar ran y mudiad.
Gofynnodd i’r BBC: “Gan fod cymaint o anfodlonrwydd gyda’r gwasanaeth presennol, pryd y byddwch yn datblygu gwasanaeth Cymraeg ychwanegol mewn unrhyw gyfrwng?
“A fydd cychwyn gwasanaeth ychwanegol o’r fath, mewn pa gyfrwng bynnag, yn golygu na fydd rhaid gwrando ar iaith ddiffygiol a chaneuon Saesneg ar y gwasanaeth traddodiadol Cymraeg?”
Mae’r llythyr llawn gan Dyfodol i’r Iaith i’w weld yng nghylchgrawn Golwg heddiw.