Gerry Adams
Mae llywydd Sinn Fein Gerry Adams wedi treulio’r nos yng ngorsaf yr heddlu ar ôl cael ei arestio gan dditectifs sy’n ymchwilio i lofruddiaeth Jean McConville yn y 70au.

Roedd Gerry Adams wedi mynd o’i wirfodd at yr heddlu yn Antrim er mwyn cael ei holi ynglŷn â’r llofruddiaeth.

Mae wedi gwadu honiadau a wnaed gan ei gyn aelodau gweriniaethol ei fod wedi gorchymyn llofruddiaeth y fam i 10 o blant gan yr IRA yn 1972.

Cafodd ei gadw yng ngorsaf yr heddlu dros nos.

Roedd Jean McConville wedi cael ei chyhuddo ar gam o drosglwyddo gwybodaeth i’r fyddin Brydeinig ym Melffast. Cafodd ei chipio a’i llofruddio a daethpwyd o hyd i’w chorff ar draeth yn 2003.

Mae ei theulu wedi croesawu’r datblygiadau diweddaraf.

Mae dirprwy arweinydd Sinn Fein Mary Lou McDonald wedi honni bod ’na  “gymhellion gwleidyddol” y tu ôl i’r honiadau ac mai’r bwriad yw niweidio’r blaid a’r llywydd.