Ann Maguire
Mae bachgen 15 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio athrawes a gafodd ei thrywanu i farwolaeth mewn ysgol yn Leeds.
Fe ymosodwyd ar Ann Maguire, 61, yn y dosbarth o flaen 30 o ddisgyblion fore dydd Llun.
Roedd yr athrawes Sbaeneg wedi gweithio yng Ngholeg Corpus Christi ers mwy na 40 mlynedd ac ar fin ymddeol.
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) wedi dweud bod digon o dystiolaeth i gyhuddo’r bachgen 15 oed o lofruddiaeth ar ôl iddo gael ei arestio a’i holi gan yr heddlu.
Fe fydd y bachgen, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, yn mynd gerbron Llys Ieuenctid Leeds yfory a Llys y Goron Leeds ddydd Gwener ar gyfer gwrandawiad ynglŷn â mechnïaeth, meddai’r CPS.
Dywedodd pennaeth y CPS yn Sir Efrog a Humberside, Peter Mann, bod yr achos wedi ennyn llawer o sylw ond bod y bachgen wedi cael ei gyhuddo o drosedd ddifrifol iawn ac yn haeddu achos teg. Fe rybuddiodd yn erbyn gwneud sylwadau neu rannu gwybodaeth ar-lein a allai effeithio’r achos.
Mae cannoedd o deyrngedau a blodau bellach wedi cael eu gadael i’r athrawes tu allan i’r ysgol.
Dywedodd pennaeth yr ysgol Steve Mort bod y disgyblion a’r staff yn gwerthfawrogi’r holl deyrngedau a negeseuon er cof am Ann Maguire, a chefnogaeth y gymuned leol.