Larwm mwg
Mae crwner wedi dweud bod methiannau gyda system ddiogelwch tân mewn fflatiau yn Llundain wedi cyfrannu at farwolaeth pensaer ifanc o Gaerdydd.

Fe wnaeth Sophia Rosser, 23, redeg i mewn i’r adeilad  oedd ar dân gan ofni bod ei chariad, Oscar Silva, y tu mewn. Ond heb yn wybod iddi, roedd Oscar Silva wedi dianc o’r fflamau a bu’n rhaid iddo wylio parafeddygon yn ceisio achub ei gariad ar ôl iddi lewygu oherwydd y mwg.

Bu farw Sophia Rosser, sy’n wreiddiol o Gaerdydd, yn Ysbyty Brenhinol Llundain yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw ar 26 Awst, 2012.

Methiannau

Dywedodd y crwner, Mary Hassell, y gallai ei marwolaeth fod wedi cael ei hosgoi pe bai drws tân yn yr adeilad yn gweithio yn iawn.

Clywodd y cwest hefyd fod un o denantiaid y fflatiau wedi cwyno am y drws ond na chafodd ei drwsio.

Ychwanegodd Mary Hassell nad oedd profion erioed wedi’u cynnal ar y larymau mwg yn yr adeilad ers cael ei adeiladu yn 1997.

Mae’r rhan fwyaf o’r fflatiau yn Meridian Place, Isle of Dogs, yn nwyrain Llundain yn eiddo i gwmni Komoto Group.

Teyrnged

Ar ôl y cwest, dywedodd Oscar Silva, cariad Sophia Rosser: “Roedd hi’n berson hefo calon fawr.

“Fe wnaeth hi roi bywydau eraill cyn ei bywyd hi ei hun.”