Mae ystadegau sydd wedi’u rhyddhau heddiw yn dangos i fwy o garcharorion farw yng Nghymru a Lloegr y llynedd nag erioed o’r blaen.
O blith 215 o farwolaethau, roedd 74 ohonyn nhw’n hunanladdiad neu’n farwolaeth ddamweiniol – y nifer mwya’ ers 2007.
Bu farw un carcharor ar ei ddiwrnod cyntaf dan glo, a naw ychwanegol o fewn eu ddau ddiwrnod cyntaf.
Cafodd 123 o farwolaethau naturiol eu cofnodi a phedwar achos o ladd.
Mae’r rhesymau am 14 o farwolaethau eraill yn parhau’n ddi-eglurhad.
Bu farw 198 o garcharorion yng Nghymru a Lloegr yn 2012.
Beirniadu
Mae llefarydd cyfiawnder y Blaid Lafur, Sadiq Khan wedi beirniadu’r ffigurau diweddaraf gan ddweud bod “gwersi blaenorol ar sail marwolaethau yn y ddalfa yn y gorffennol yn cael eu hanwybyddu”.
Ychwanegodd: “Mae angen i weinidogion weithredu ar frys i ddatrys y broblem hon, darganfod beth sy’n eu hachosi, a gwneud popeth fedran nhw i sicrhau na chaiff yr ystadegyn trasig hwn mo’i ail-adrodd byth eto.”
Yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae 38% o’r marwolaethau mewn carchardai yng Nghymru a Lloegr yn digwydd o fewn 30 diwrnod cynta’ cyfnod carcharor dan glo.