Ian Gough
Mae chwaraewr ail-reng Cymru, Ian Gough wedi cael ei gyhuddo o ymosod ar gyn-enillydd Miss Wales yn Croydon.

Ymddangosodd Gough, 37 o Benllergaer yn Abertawe, gerbron ynadon ddoe, wedi’i gyhuddo o ymosod ar Sophia Cahill yng nghartref ei dyweddi, y seren bop Dane Bowers.

Honnir bod yr ymosodiad wedi digwydd ym mis Ionawr eleni, ond gwadodd y cyhuddiad yn ei erbyn.

Mae cyn-chwaraewr y Gweilch wedi chwarae i Gymru 64 o weithiau, ac mae e bellach yn chwarae i dîm Gwyddelod Llundain.

Mae disgwyl iddo ddychwelyd i Gymru i ranbarth Dreigiau Gwent y tymor nesaf.

Fe fydd yn ymddangos gerbron ynadon unwaith eto ar Orffennaf 29.