Mae uned famolaeth newydd Ysbyty Bronglais, Aberystwyth wedi agor.
Mae’n rhan o gynlluniau gwerth £38m i ad-drefnu gwasanaethau iechyd yng Ngheredigion, ac fe fydd yn cael ei rhedeg gan fydwragedd yn hytrach na doctoriaid.
Mae’r uned newydd yn cynnwys mwy o ystafelloedd sengl a dwbwl, gydag ystafelloedd molchi yn sownd iddyn nhw.
Yn ôl Bwrdd Iechyd Hywel Dda mae’n rhaid ad-drefnu’r gwasanaethau er mwyn cwrdd â’r heriau sy’n wynebu’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
“Y buddsoddiad yma yw’r buddsoddiad mwyaf erioed yn Ysbyty Bronglais sy’n dangos ein hymrwymiad ni i’r ysbyty, ei staff a’r rhwydwaith mewnol,” meddai Peter Skitt, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Aciwt.
Ym mis Ionawr, fe gyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford, y bydd y gwasanaeth mamolaeth wedi ei arwain gan ddoctoriaid yn dod i ben yn Ysbyty Bronglais ac yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd.