Mae dyn wedi’i arestio mewn cysylltiad a marwolaeth merch yn ei harddegau a ddiflannodd dros 20 mlynedd yn ol.

Roedd Johanna Young yn 14 oed pan ddiflannodd o gartre’r teulu yn Watton, Norfolk, ar Ragfyr 23, 1992.

Fe ddaethpwyd o hyd i’w chorff briwiedig dridiau’n ddiweddar, ar Ddiwrnod San Steffan.

Heddiw, mae Heddlu Norfolk wedi cadarnhau fod dyn yn ei 40au o ardal Watton wedi cael ei arestio.

“Mae’r dyn yn parhau yn y ddalfa, ac mae ymchwiliad yr heddlu’n parhau,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.