David Cameron ac Alex Salmond (Llun: PA)
Fe fydd Alex Salmond a David Cameron yn achub ar y ffaith ei bod hi heddiw’n Ddiwrnod San Siôr er mwyn pledio’u hachos cyn i’r Alban gynnal refferendwm annibyniaeth ym mis Medi.

Bydd arweinydd yr SNP yn ymweld â chymuned Caerliwelydd mewn ymgais i’w darbwyllo y bydd modd iddyn nhw barhau i fasnachu mewn Alban annibynnol.

Fe fydd yn mynnu heddiw y bydd yr Alban yn cadw’r bunt pe bai’n annibynnol, er gwaethaf gwrthwynebiad y pleidiau eraill.

Mae disgwyl i Salmond ddweud: “Yn dilyn annibyniaeth, fe fydd yr undod cymdeithasol rhwng pobol yr ynysoedd hyn yn parhau.

“Fe fyddai pobol yn parhau i fyw yn Annan a gweithio yng Nghaerliwelydd, neu’n byw ym Mhenrith a gweithio yn Lockerbie.

“Byddai ffrindiau a theuluoedd yn parhau i ymweld â’i gilydd.

“Bydden ni’n parhau i wylio’r un rhaglenni teledu ar y cyfan.

“Byddai pobol o’r Alban a Lloegr yn parhau i ddathlu undod personol – trwy briodi yng Nghadeirlan Caerliwelydd neu efallai trwy fynd i Gretna, yn hytrach.

“Byddai gan Gaerliwelydd gysylltiadau cryf o ran masnach a thrafnidiaeth gyda’r Alban o hyd. Bydden ni’n parhau i rannu’r un arian.”

Yn y cyfamser, mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron wedi apelio ar i’r Alban barhau’n aelod o “deulu cenhedloedd gorau’r byd”.

Dywedodd fod modd bod yn falch o’r gwledydd unigol tra’n aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig.

“Waeth bynnag mor wych ydyn ni ar ein pennau ein hunain, byddwn ni bob amser yn well gyda’n gilydd.”

“Ar Ddydd San Siôr fel hyn, rwy am i ni feddwl am un o gyflawniadau mwyaf Lloegr: ei rhan yn nheulu cenhedloedd gorau’r byd – y Deyrnas Unedig”.

“Ymhen pum mis yn unig, fe fydd pobol yr Alban yn pleidleisio ac yn penderfynu a ydyn nhw am aros yn rhan o’r llwyddiant byd eang hwn.

“Felly gadewch i ni brofi y gallwn ni fod yn falch o’n cenhedloedd unigol a pharhau i ymroi i’n hundeb o genhedloedd.”

Wrth gyfeirio at frwydr arall tros annibyniaeth, mae aelod seneddol yr SNP, Peter Wishart wedi dymuno “Dydd San Siôr Hapus i’m ffrindiau Catalan”.

San Siôr yw nawddsant Catalwnia.