Fe fydd achos tribiwnlys lle mae gweithwyr o Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn honni fod eu cyflogwr wedi gwahaniaethu yn eu herbyn ar sail rhyw yn parhau heddiw.

Mae 26 o ddynion sy’n gweithio i’r brifysgol yn honni eu bod wedi derbyn tua £4000 yn llai o gyflog na’u cydweithwyr sy’n ferched rhwng 2007 a 2013.

Fe agorodd y gwrandawiad mewn tribiwnlys yng Nghaerdydd ddoe, gydag 18 o’r dynion yn ceisio hawlio tua £700,000 mewn cyflogau.

Yn ôl y dynion, sy’n gweithio fel gofalwyr a staff cynnal a chadw, maen nhw wedi derbyn llai o gyflog na merched yn yr un swyddi a nhw ers i’r brifysgol newid eu contractau o 45 awr i 37 awr yr wythnos.

Ond maen nhw’n dadlau y dylen nhw fod wedi derbyn yr un tal a’u cydweithwyr gan fod y swyddi ar yr un raddfa gyflog.

‘Honiadau yn erbyn dynion yn brin’

Wrth holi Robert Cooze, 50, o Abertawe sy’n gweithio fel crefftwr i’r brifysgol, gofynnodd y bargyfreithiwr Peter Wallington:

“Rydym ni’n clywed sôn am wahaniaethu yn erbyn merched ond mae honiadau yn erbyn dynion yn brin iawn.

“Ydych chi wir yn gofyn i ni gredu bod y cyflogwr wedi gwahaniaethu yn eich erbyn am eich bod yn ddynion?”

“Ydw,” oedd ateb Robert Cooze a oedd yn mynnu fod ganddo ef a’i gydweithwyr achos dilys.

Nid yw’r brifysgol yn dadlau fod gwahaniaethu wedi bod yn nhal y gweithwyr ond mae’n honni nad yw hynny ar sail rhyw.

Prifysgol Fetropolitan Abertawe oedd enw’r brifysgol tan iddi uno â Phrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant ym mis Awst 2013.

Mae’r achos yn parhau.