Mae bachgen 11 oed wedi marw ar ol syrthio i mewn i gamlas yn Swydd Gaerhirfryn.

Mae heddlu wedi cadarnhau i’r bachgen groesi pont dros y gamlas cyn ceisio croesi peipen – ond fe gollodd ei falans a syrthio i gamlas Leeds a Lerpwl yn Burnley.

Fe neidiodd oedolyn i’r dwr i geisio’i achub, a’i dynnu allan tua 7 o’r gloch neithiwr.

Ond, er i’r bachgen dderbyn triniaeth yn y fan a’r lle, ac er i’r gwasanaethau brys gyrraedd, fe fu’r bachgen farw yn ddiweddarach yn Ysbyty Brenhinol Blackburn.

Dyw’r farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus.