Mae ymchwil gan brifysgol yng Nghymru’n awgrymu bod achosion o drais wedi cwympo oherwydd llai o yfed.

Fe syrthiodd yr achosion o drais difrifol 12% rhwng 2012 a 2013, meddai arolwg o Gymru a Lloegr gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Maen nhw’n dadlau bod cynnydd ym mhris alcohol a llai o yfed gwyllt ymhlith y rhesymau am hynny.

Llai o yfed gwyllt

“Mae yfed gwyllt yn llai aml a’r canran o bobol ifanc rhwng 11 ac 18 sydd heb fod yn yfed wedi codi’n gyflym,” meddai arweinydd y grŵp ymchwil trais a chymdeithas, yr Athro Jonathan Shepherd.

“Hefyd, ar ôl degawdau pan oedd alcohol yn dod yn rhatach, ers 2008 mae wedi mynd yn ddrutach. I’r bobol sydd fwya’ tebyg o gymryd rhan mewn trais – rhai rhwng 18 a 30 – mae cwymp yn eu harian gwario yn debyg o fod yn ffactor pwysig.”

Yr ymchwil

Roedd yr ymchwilwyr wedi astudio’r ffigurau o 117 o ganolfannau iechyd sy’n trin damweiniau ac achosion brys gan nodi nifer y bobol oedd wedi dod i mewn oherwydd trais difrifol.

Mae’r ystadegau’n awgrymu bod 32,000 yn llai o bobol wedi cael niwed y llynedd o gymharu â’r flwyddyn gynt.

Ond mae arbenigwyr eraill wedi rhybuddio y gallai’r duedd newid et oar ôl i Lywodraeth Prydain ddileu’r cynnydd awtomatig mewn treth ar alcohol.