Ddylai’r delyn ddim mynd yn ôl i’r dafarn meddai Cyfarwyddwr Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru sy’n digwydd yng Nghaernarfon yr wythnos hon.

Fe wrthododd Elinor Bennett yr awgrym fod eisiau mynd â’r offeryn i lefydd llai ffurfiol er mwyn ei boblogeiddio.

“Dw i ddim yn un sydd eisio mynd â hi i’r dafarn eto,” meddai. “Roedden nhw yn y dafarn ormod a doedd yna ddim lefel o arbenigedd, dim lefel ansawdd o gwbl.

“Yn y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, doedd yna unlle arall i fynd â’r delyn – roedden nhw wedi cael eu gwthio allan o’r capeli, eu gwthio allan o’r tai bonedd i ryw raddau – yn arbennig y delyn deires – ac wedi aros yn y tafarndai ac wedi mynd braidd yn fasweddus, wedi cael eu sathru, ac roedd pobol eisio codi eu safon a’u rhoi ar lwyfan cyngerdd.”

‘Dim gwrando’

Mae angen gwrandawiad teg ar delynorion ac offerynwyr – boed glasurol neu werin – meddai Elinor Bennett a dyw hynny ddim ar gael mewn tafarn, meddai.

“Y broblem fawr ydi pobol yn siarad a ddim yn gwrando. Dw i ddim yn licio mynd â’r delyn i rywle lle chi’n gorfod troi’r sŵn i fyny er mwyn i bobol gael siarad yn uwch… mae hynny’n anathema i mi.”

Ond sesiwn hwyr yn y Blac Boi

Eithriad, meddai hi, yw’r sesiwn hwyr o ‘ganu traddodiadol gyda’r tannau’ y mae hi ei hun wedi ei drefnu yn nhafarn y Blac Boi yn rhan o’r Ŵyl Delynau a noson delynau yng Ngwesty’r Celt. Ond mae hynny yn “wahanol”, meddai.

“Y Blac yw’r lle addas ar gyfer beth ydan ni eisio’i wneud nos Fercher,” meddai. “Maen nhw’n gwneud cerddoriaeth mewn ffordd ysgafn – ac mae’n gweddu ddiwedd y dydd pan mae pawb eisiau ymlacio.”

Yn ôl Arfon Gwilym sy’n arwain y noson dafarn, “mae angen y ffurfiol a’r anffurfiol”.

“Ble bynnag mae’r anffurfiol yn digwydd – boed o mewn tafarn neu le bynnag – mae angen y ddau beth,” meddai Arfon Gwilym. “Os ydan ni eisio hyrwyddo cerddoriaeth Cymru, dw i’n meddwl y gallwn ni groesawu’r offerynnau a’r canu mewn unrhyw sefyllfa. Mae eisio cymryd mantais o bob un sefyllfa bosib i hyrwyddo.”

* Mae’r Wyl Delynau Ryngwladol yn parhau tan nos Sadwrn, Ebrill 26 – ewch i www.walesharpfestival.co.uk