Mae Nwy Prydain wedi gwadu honiadau eu bod yn talu bonws i staff am godi’r uchafswm ar gwsmeriaid.

Roedd cyn-weithiwr wedi dweud wrth y Daily Mail fod polisi’r cwmni’n annog staff i dargedu elusennau, eglwysi a busnesau bach er mwyn gwerthu’r cynlluniau tariff drutaf iddyn nhw.

Roedd y staff wedi cael gwybod y byddai modd iddyn nhw dreblu eu cyflogau mewn comisiwn os oedden nhw’n gwerthu digon o’r cynlluniau drutaf.

Wrth wadu’r honiadau, meddai llefarydd ar ran Nwy Prydain:

“Mae Nwy Prydain yn gwadu’n gryf unrhyw awgrym bod gweithwyr yn cael comisiwn ar unrhyw brisiau sy’n cael eu codi ar gwsmeriaid preifat.

“Rydym hefyd yn gwrthod unrhyw awgrym fod contractau busnes yn cael eu bargeinio mewn ffordd anaddas yn ein hadran fusnes, Busnes Nwy Prydain.

“Mae hon yn farchnad gystadleuol sy’n cael ei rheoleiddio’n llym, ac mae pob rhan o’r broses fargeinio gyda chwsmeriaid busnes yn cael ei monitro’n fanwl.

“Mae unrhyw bryderon sy’n cael eu codi gan weithwyr neu gwsmeriaid yn cael eu cymryd o ddifrif.”

Iawndal

Yn gynharach y mis yma, cafodd Nwy Prydain eu gorchymyn gan y rheoleiddiwr ynni Ofgem i dalu £5.6 miliwn o iawndal a dirwyon am geisio rhwystro busnesau rhag newid cyflenwyr a methu â dweud wrth eraill bod eu cytundebau’n dod i ben.

Wrth ymateb i’r honiadau diweddaraf, meddai’r Ysgrifennydd dros Ynni a Newid yn yr Hinsawdd, Ed Davey:

“Mae hwn yn honiad difrifol iawn ac yn peri pryder mawr sy’n dod wrth inni wneud popeth a allwn i wneud i’r marchnadoedd ynni weithio’n well i bawb o’n cwsmeriaid, boed nhw’n rhai domestig neu’n fusnesau.

“Mae’r Llywodraeth yn cefnogi’n llwyr argymhelliad Ofgem am ymchwiliad llawn i’r farchnad.

“Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i helpu pobl i dalu llai am yr ynni maen nhw’n ei ddefnyddio, gan hyrwyddo’r gystadleuaeth sydd wedi gweld y nifer o gyflenwyr ynni’n treblu ers 2010 a mwy o bobl nag erioed yn cyfnewid cyflenwyr.”