Mae merch ifanc wedi marw ar ôl dioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad car yn Abertawe nos Iau.
Roedd y ferch 21 oed yn deithiwr mewn car Honda Civic du a drawodd geir a oedd wedi parcio yn Ffordd Langdon yn ardal SA1 tua 10.25pm y nos.
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau iddi farw yn Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd, ddoe.
Roedd gyrrwr y car, a oedd hefyd yn 21 oed, wedi cael ei arestio ac mae wedi bod yn helpu’r heddlu gyda’u hymholiadau.
Mae dau o bobl a oedd mewn car arall a gafodd ei daro wedi derbyn triniaeth mewn ysbyty am eu hanafiadau.
Mae’r heddlu’n apelio ar i unrhyw un a welodd y digwyddiad neu a allai fod wedi gweld y car Honda Civic yn cael ei yrru yn ardal y Marina neu SA1 nos Iau, i ffonio 101 neu i gysylltu’n ddi-enw ar linell Taclo’r Tacle ar 0800 555111.