Peaches Geldof gyda'i gwr Tom Cohen
Dyw’r archwiliad post-mortem i farwolaeth Peaches Geldof, merch Bob Geldof a’r diweddar Paula Yates,  heb ddatgelu achos ei marwolaeth.

Bydd yr awdurdodau nawr yn aros am ganlyniadau profion tocsicoleg.

Dywedodd Heddlu Caint bod eu swyddogion yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau marwolaeth y gyflwynwraig deledu 25 mlwydd oed.  Gallai adroddiad tocsicoleg gymryd sawl wythnos i’w gwblhau.

Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ yn Wrotham yng Nghaint tua 1.35 brynhawn Llun, lle cafwyd hyd i’w chorff. Roedd hi’n briod a’r cerddor Tom Cohen ac yn fam i ddau o blant.

Ar hyn o bryd mae’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un sydyn ac anesboniadwy, yn ôl Heddlu Caint.