Ysbyty Athrofaol Caerdydd
Mae cwest wedi ei agor a’i ohirio i farwolaeth bachgen 15 oed a fu farw yn yr ysbyty’r wythnos diwethaf.

Bu farw Simon Brooks yn Ysbyty Athrofaol  Caerdydd ar 3 Ebrill – bedwar diwrnod ar ôl iddo gael ei gludo yno o’i gartref yn Nhonyrefail, Rhondda Cynon Taf.

Dywedodd y crwner fod amheuon ei fod wedi cymryd gorddos.

Mae ei deulu yn honni ei fod wedi cael ei fwlio yn yr ysgol.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn ymchwilio i’r digwyddiad ond nad oedden nhw’n ei drin fel un amheus ar hyn o bryd.

Mae disgwyl i’r cwest ailddechrau ym mis Gorffennaf, lle bydd mam y bachgen, Julie Brooks, patholegydd, yr heddlu ac ymgynghorwyr ysbytai yn rhoi tystiolaeth.