Mae 13 o bobl wedi cael eu trin wedi digwyddiad cemegol yn Saltney, Sir y Fflint.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ffatri English Provender Co yn Stad Ddiwydiannol River Lane oddeutu 9:30 y bore ma.

Cafodd criwiau tân o Gaer, Glannau Dyfrdwy, Wrecsam a Bwcle eu galw i’r digwyddiad

Credir bod dau gynnyrch glanhau wedi cael eu cymysgu gan ryddhau anwedd gwenwynig.

Meddai llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru eu bod nhw’n credu mai 13 o bobl sydd wedi anadlu’r cemegau.