Mared Elfyn
Mae teulu a ffrindiau athrawes ifanc fu farw mewn damwain car y llynedd wedi codi dros £28,000 i Ambiwlans Awyr Cymru er cof amdani.

Casglwyd dros £4,000 yn angladd Mared Elfyn yn Llan Ffestiniog, ac yna fe godwyd miloedd yn fwy gan ei theulu a’i ffrindiau oedd yn rhedeg hanner marathon Môn ym mis Mawrth.

Daeth y syniad o redeg y marathon gan gariad Mared Elfyn, Tom Hughes o Rydymain ger Dolgellau wedi iddo glywed ei bod yn costio £1,500 bob tro mae’r ambiwlans awyr yn cael ei alw allan.

Mae siec o £28,000 wedi cael ei gyflwyno i’r Ambiwlans Awyr, yn eu safle yn Ninas Dinlle ger Caernarfon.

Y ddamwain

Bu farw Mared Elfyn yn ysbyty Bronglais, Aberystwyth, ddeuddydd ar ôl cael ei chludo yno mewn hofrennydd yn dilyn y ddamwain ger Derwenlas, Machynlleth, ar 11 Rhagfyr y llynedd.

Roedd y ferch 23 oed yn dod o Lan Ffestiniog ac yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Bro Ddyfi, Machynlleth ar y pryd.

Bu dros 600 o bobl yn yr angladd yn Llan Ffestiniog ar gyfer y gwasanaeth.