Sajid Javid, yr Ysgrifennydd Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon
Mae Sajid Javid wedi cael ei benodi’n Ysgrifennydd Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon meddai David Cameron heddiw.
Bydd yn olynu Maria Miller sydd wedi ymddiswyddo yn dilyn yr helynt ynglŷn â hawlio treuliau seneddol am daliadau morgais ar ail gartref.
Mae Sajid Javid. Aelod Seneddol Bromsgrove, yn gyn rheolwr gyfarwyddwr gyda Deutsche Bank ac mae wedi gwasanaethu fel Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys ers mis Hydref diwethaf.
Cafodd Sajid Javid, sy’n dad i bedwar, ei ethol fel AS yn 2010.