Ganrif a hanner ers y Cau Allan yn Chwarel Dinorwig ym Mehefin 1874, sef brwydr gyntaf Undeb y Chwarelwyr, mae gwahoddiad i bobol ddod ynghyd ddydd Sul (Mehefin 23) i gofio’r achlysur.

Mehefin 18, 1874 oedd y ‘dydd Gosod’ pwysig, pan gafodd chwarelwyr Dinorwig ddewis rhwng yr Undeb a’u gwaith.

Yn y dyddiau ddilynodd, dewisodd 2,200 o chwarelwyr yr Undeb, ac un ar ddeg i’r gwrthwyneb.

Ddydd Sul am 3 o’r gloch ger y Cleddyf ar lan Llyn Padarn, mae’r grŵp Facebook ‘Eryri Wen’ yn gwahodd pobol i goffáu’r diwrnod hanesyddol hwn drwy ganu emynau’r chwarelwyr, cofio’r cau allan a galw am warchod hen enwau Cymraeg y chwarel.

Ac mae cyn-athro’n dweud wrth golwg360 y dylai’r hanes gael ei ddysgu yn yr ysgol.

Cofio’r cau allan

Un sydd wedi bod wrth wraidd y gwaith trefnu yw Eilian Williams o Nant Peris ger Llanberis.

Bu tad a theidiau Eilian yn gweithio yn Chwarel Dinorwig, ac mae’n bwysig bod hanes y chwarelwyr yn cael ei barchu, meddai.

Mae tri phrif fwriad i’r digwyddiad ddydd Sul, meddai Eilian, ac un o’r rhain yw cofio’r cau allan.

Cafodd Undeb y Chwarelwyr ei sefydlu yn 1874, mewn ymateb i anfodlonrwydd cynyddol ymysg y chwarelwyr, yn enwedig gweithwyr Chwarel y Penrhyn a Chwarel Dinorwig.

Ar Ebrill 27 y flwyddyn honno, cafodd cyfarfod ei gynnal yn y Queen’s Head yng Nghaernarfon, a chafodd yr undeb ei lansio.

Ond roedd nifer o berchnogion y chwareli yn amharod i dderbyn bodolaeth yr undeb.

O ganlyniad, cafodd tua 2,200 o chwarelwyr eu cloi allan o Chwarel Dinorwig ym mis Mehefin, ond ar ôl pum wythnos, cytunodd y rheolwyr i dderbyn bodolaeth yr undeb.

Bu Eilian Williams yn gweithio fel athro am gyfnod, a’i deimlad oedd nad oedd digon o hanes lleol y chwareli yn rhan o’r cwricwlwm addysg.

Mae’n poeni bod hyn yn parhau i fod yn broblem hyd heddiw.

“Hanes teuluoedd brenhinol a’r Tuduriaid a rhyw bethau roedd yn rhan o’r cwricwlwm,” meddai wrth golwg360.

“Yn yr ysgol uwchradd, prin iawn mae hanes y chwareli’n dod i mewn i’r cwricwlwm.

“Mae’n rhan bwysig o hanes Cymru sy’n cael ei esgeuluso.

“Gobeithio y bydd yr ysgolion lleol yn cefnogi’r digwyddiad drwy annog y staff a disgyblion i ddod.”

‘Diffyg parch’

Rheswm arall dros gynnal y digwyddiad yw talu teyrnged i’r chwarelwyr, meddai Eilian Williams wedyn.

“Rydan ni’n teimlo bod yna ddiffyg parch at gof y chwarelwyr,” meddai.

“Felly bydd Karen Owen o Benygroes yn gweddïo dros y 1,400 rydan ni’n meddwl gafodd eu lladd yn y chwareli yn Nyffryn Nantlle, Stiniog, Penrhyn a Dinorwig.

“Mae ei angen achos dim ond deg o chwarelwyr Dinorwig sydd ar ôl.”

Rhan arall o dalu teyrnged i’r chwarelwyr fydd canu eu hemynau, fel ‘Gwaed y Groes’, gyda Seindorf Arian Deiniolen yn cyfeilio.

Bydd Corau Meibion Bro Peris a Phenryn yn ymuno hefyd.

“Roedd yr emynau yma’n cael eu canu yn ystod y gwrthdaro efo perchnogion y chwarel, a chafodd eu hystyr eu benthyg gan y chwarelwyr i’r frwydr,” meddai.

“Maen nhw’n sôn am galedi’r chwarel a’r graig.”

Creu enwau Saesneg

Pan gafodd y chwarel ei chymryd drosodd gan y Central Electricity Generating Board (CEGB) ar ôl ei chau, cafodd trigolion Llanberis a Deiniolen gynnig i dirlunio’r chwarel.

Penderfynodd y trigolion nad oedden nhw am i hynny ddigwydd bryd hynny, a bod angen i’r ponciau aros fel oedden nhw “fel cofeb i lafur a chwys teuluoedd”.

Erbyn 1969, dechreuodd y dringwyr symud i mewn i’r chwarel, a hyd heddiw fe welwch ddringwyr ar hyd a lled ponciau’r chwarel.

Ond daeth hyn â phroblemau, eglura Eilian Williams.

“Be’ wnaethon nhw, heb yn wybod i ni, oedd creu enwau Saesneg newydd sbon ar gyfer y ponciau,” meddai.

“Doedden nhw ddim yn cymysgu ryw lawer efo’r gymuned leol a’r unig rai fysa wedi gallu ein rhybuddio fysa’r dringwyr Cymreig ond wnaethon nhw ddim.

“Yn ogystal â’r ponciau a’r sinciau, maen nhw hefyd wedi enwi dros 400 o ddringfeydd, a rhai ohonyn nhw yn enwau hyll ofnadwy.

“Mae’r enwau yma yn rhan o’n hanes dros ddwy ganrif… Dim ond deugain mlynedd o hanes sydd gan y dringwyr yn y chwarel i gymharu.”

Gwarchod enwau Cymraeg

Mae Eilian Williams eisoes wedi bod yn galw am rywun i gymryd cyfrifoldeb dros orfodi mapiau Arolwg Ordnans (OS) i ddefnyddio enwau Cymraeg ar greigiau yn Eryri.

Mae Eilian wedi bod yn casglu’r enwau roedd bugeiliaid yn yr ardal yn arfer eu defnyddio ar greigiau sydd ag enwau Saesneg ar fapiau’r OS.

Dywed yr OS eu bod nhw’n gweithio gyda chydweithwyr mewn nifer o awdurdodau i ymchwilio i’r mater.

Does gan Gyngor Gwynedd ddim cyfrifoldeb na phwerau statudol dros fapiau cyrff na sefydliadau eraill, fel yr OS, ond dywed llefarydd ar eu rhan ei bod hi’n “destun siom” nad ydyn nhw’n defnyddio enwau Cymraeg cynhenid.

Felly, mae Eilian Williams am fanteisio ar y digwyddiad er mwyn pwyso ar Gyngor Gwynedd ac UNESCO i ymateb i hyn drwy rybuddio awduron y gwefannau sy’n rhannu’r enwau newydd hyn.

“Un perchennog sydd i’r chwarel a thasa’r Cyngor yn mynd i drafodaeth efo’r cwmni, a’r rheini yn cytuno bod angen cadw’r hen enwau Cymraeg – dw i’n siŵr bysa gan Gyngor Gwynedd, UNESCO a’r cwmni y pŵer i atal yr ailenwi yma a rhybuddio’r awduron,” meddai.

“Y ffordd orau i barchu’r chwarelwyr yw trwy ddiogelu’r enwau a thrwy, gobeithio, naddu’r enwau ar y ponciau yn y chwarel.

“Ac yn fwy na hynny, naddu enwau’r 400 gafodd eu lladd yn y chwarel yn y mannau priodol.

“Beirniadaeth ar Gyngor Gwynedd a’r pwyllgor UNESCO fydd trydedd elfen y digwyddiad, felly.”