Gallai fod yn “anymerferol” i wahardd Aelodau’r Senedd am ddweud celwydd yn fwriadol, yn ôl prif ymgynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru.

Cododd Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru, bryderon am gynigion Adam Price i wahardd gwleidyddion o’r Senedd am fod yn fwriadol dwyllodrus.

Cafodd gwelliant cyn-arweinydd Plaid Cymru i’r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig, fyddai’n gwneud twyllo’n drosedd, ei gytuno ar ôl i Lee Waters o’r Blaid Lafur atal ei bleidlais.

“Fe ddywedaf fi nad ydw i’n credu mai anghyfreithlonni yw’r ffordd mae’n gweithio, mewn gwirionedd,” meddai wrth roi tystiolaeth i ymchwiliad ynghylch atebolrwydd.

“Dw i’n credu ei fod e fwy na thebyg yn anymarferol.”

Dywedodd mai ymchwiliad y Pwyllgor Safonau yw’r lle gorau i ystyried y mater, gan awgrymu y bydd gweinidogion Cymru’n ceisio dileu’r cymal yn ystod y cam gwelliannau nesaf ar Orffennaf 2.

Adalw

Gofynnodd Vikki Howells, aelod o feinciau cefn Llafur sy’n cadeirio’r Pwyllgor Safonau, a ddylai Cymru fabwysiadu dull San Steffan o symud aelodau seneddol o’u swyddi rhwng etholiadol.

Yn Nhŷ’r Cyffredin, mae modd sefydlu deiseb adalw yn sgil cyfnod o ddeuddeg mis neu lai o garchar, gwaharddiad o ddeng niwrnod gwaith neu fwy, neu gollfarn am drosedd yn ymwneud â threuliau.

Fe wnaeth Mick Antoniw gytuno i raddau helaeth â’r meini prawf, gan bwysleisio pwysigrwydd cysondeb rhwng seneddau ar yr un pryd â rhoi ystyriaeth i amgylchiadau penodol Cymru.

Dywedodd fod y trothwy o ddeuddeg mis, y caiff Aelodau’r Senedd waharddiad awtomatig am fynd drosto, yn ymddangos “braidd yn uchel”, gan awgrymu y gallai chwe mis fod yn fwy priodol.

Tynnodd Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru sylw at y ffaith y gallai pobol gael eu carcharu am fater yn ymwneud â’u cydwybod, megis protestio am yr amgylchedd, ynni niwclear neu’r iaith Gymraeg.

‘Cam yn rhy bell’

Fe wnaeth Mick Antoniw gydnabod y pryderon, gan ddweud bod protest heddychlon yn rhan o gymdeithas ddemocrataidd, ond dywedodd y byddai trothwy o chwe mis yn cau allan “bron pob un o’r mathau o amgylchiadau hynny”.

Rhybuddiodd fod “disgresiwn bob amser yn anodd iawn yn nhermau pethau fel gwaharddiad”.

Pan gafodd ei holi a ddylai system adalw fod yn berthnasol i aelodau sy’n newid eu daliadau gwleidyddol yn dilyn etholiad, rhybuddiodd Mick Antoniw y gallai fod gam yn rhy bell.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol fod gwleidydd sy’n symud at blaid arall mewn perygl o newid cydbwysedd y Senedd a chanlyniad etholiad.

Ond dywedodd wrth y pwyllgor y gall gwleidydd adael plaid tros fater o gydwybod, megis grŵp yn newid eu safbwynt ynghylch unrhyw fater ar ôl etholiad.

‘Hirfaith’

Fe wnaeth Mick Antoniw ddadlau mai’r ffordd fwyaf effeithiol ymlaen fyddai sicrhau na all Aelodau’r Senedd ffurfio nac ymuno â phlaid arall, a bod gofyn iddyn nhw fod yn aelod annibynnol.

Fe wnaeth e ddadlau dros sicrhau bod proses apeliadau yn rhan o unrhyw system adalw, gan rybuddio y gallai diffyg proses daflu i fyny “pob mathau o faterion hawliau dynol” ac y gallai arwain at her gyfreithiol.

Ond fe bwysleisiodd e bwysigrwydd symud ymlaen ar gyflymdra, wrth fynegi pryderon ynghylch prosesau blaenorol y Pwyllgor Safonau sydd wedi mynd yn eu blaenau “am gyfnod hirfaith”.

Fe wnaeth e ddadlau y dylai fod angen pleidlais gan fwyafrif syml er mwyn cymeradwyo prosesau adalw, yn hytrach na mwyafrif o ddau draean.

“All Chwip ddim cyfrif,” meddai.

“Dw i ddim yn credu y byddai hynny’n briodol o dan unrhyw amgylchiadau.”

Cymhlethdodau

Wrth ymateb i bryderon Mark Drakeford ynghylch y perygl y gallai lleiafrif yn atal adalwad, cytunodd Mick Antoniw â’r cyn-Brif Weinidog fod perygl o or-wleidydda o gael mwyafrif clir.

Gofynnodd Peredur Owen Griffiths sut mae’r Cwnsler Cyffredinol yn rhagweld y broses yn gweithio yn wyneb cymhlethdodau system etholiadol “rhestr gaeëedig” lwyr gyfrannol newydd Cymru.

O dan y Bil Aelodau ac Etholiadau, sy’n aros am Sêl Bendith Brenhinol, bydd pobol yn pleidleisio dros bleidiau yn hytrach nag ymgeiswyr unigol yn etholiadau’r Senedd yn y dyfodol.

Awgrymodd Mick Antoniw bleidlais gyhoeddus syml ar sail ‘cadw neu ddisodli’, gan ddweud y byddai, yn ei hanfod, yn refferendwm ar a ddylid symud Aelod o’r Senedd o’i swydd.

“Dydy hi ddim wir yn ddeiseb, oherwydd mae deiseb yn gofyn am ganiatâd i wneud rhywbeth,” meddai.

“A dydy e ddim yn is-etholiad, oherwydd does dim ymgeiswyr eraill.”

‘Tegwch’

Dywedodd Mick Antoniw y byddai’r person nesaf ar restr wreiddiol plaid, all gynnwys hyd at ddeuddeg ymgeisydd, yn disodli Aelod o’r Senedd sy’n cael ei symud o’i swydd, gan gadw gwneuthuriad y Senedd yr un fath ag yr oedd adeg yr etholiad.

Pan gafodd ei holi a ddylai fod gan bleidiau ddisgresiwn i newid trefn ymgeiswyr ar restrau’n ddiweddarach, yn seiliedig ar ffactorau megis cydbwysedd o rhan rhyw, rhybuddiodd Mick Antoniw yn erbyn cymhlethdodau ychwanegol.

Tynnodd Mark Drakeford sylw at y ffaith y bydd y 32 etholaeth yng Nghymru fydd yn cael eu defnddio yn yr etholiad cyffredinol ar Orffennaf 4 yn cael eu paru i greu 16 etholaeth ar gyfer etholiad nesa’r Senedd.

Awgrymodd yr Aelod Llafur dros Orllewin Caerdydd y dylai fod angen trothwy ym mhob etholaeth yn hytrach nag ar draws y ddwy.

“Dylai tegwch fod uwchlaw pryderon am gymhlethdodau,” meddai.

Dywedodd ei bod hi’n bosib y gallai etholaethau megis Blaenau Gwent a Mynwy, sydd â chymeriad gwahanol i’w gilydd, gael eu paru gan y Comisiwn Etholiadol.

‘Disgwyliadau’r cyhoedd’

“Oni bai bod gennych chi drothwy sy’n berthnasol i’r ddwy, gallai un hanner benderfynu’r canlyniad i’r hanner arall,” meddai Mark Drakeford.

Roedd Mick Antoniw yn derbyn y gallai problemau godi, megis rhwng etholaethau diwydiannol a gwledig, ond yn dweud bod ei “reddf” yn ffafrio symlrwydd trothwy cyfun.

Pan gafodd ei holi a ddylai gorsafoedd pleidleisio fod ar agor am ddiwrnod neu fwy, fel sy’n digwydd yn system San Steffan, roedd Mick Antoniw yn ffafrio’r olaf o’r opsiynau, gan ddadlau y byddai’n sicrhau’r cyfranogiad mwyaf.

Gofynnodd Natasha Asghar o’r Ceidwadwyr Cymreig ynghylch y tebygolrwydd y byddai Bil Adalw yn cael ei basio cyn yr etholiad nesaf, gan ddweud bod cael 96 yn rhagor o Aelodau o’r Senedd yn cynyddu’r perygl o gamymddwyn.

“Yr ymrwymiad sydd wedi’i roi i Lywodraeth gan y Prif Weinidog yw y bydden ni’n hoffi gweld y ddeddfwriaeth hon yn ei lle erbyn 2026,” meddai wrth y cyfarfod ddoe (dydd Llun, Mehefin 17).

“Dw i’n credu mai dyna ddisgwyliad y cyhoedd hefyd,” meddai.