Maria Miller. Llun:PA
Mae’r pwysau’n cynyddu ar Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth Prydain, Maria Miller, ar ôl i bapur newydd y Daily Telegraph ryddhau tâp sain o sgwrs ffôn rhwng ymgynghorydd Mrs Miller a gohebydd gyda’r papur.
Yn ystod y sgwrs mae’r ymgynghorydd, Jo Hindley, yn sôn fod Maria Miller wedi bod yn cynnal nifer o gyfarfodydd gyda golygyddion papur newydd ynglŷn ag adroddiad Leveson am reolaeth y wasg. Roedd golygydd y Daily Telegraph, Tony Gallagher, yn ystyried y sylw yma yn fygythiad gan fod ei bapur wedi bod yn adrodd ar yr ymchwiliad i dreuliau Mrs Miller. Roedd y Comisiynydd Seneddol oedd yn cynnal yr ymchwiliad i’w cheisiadau treuliau wedi argymell bod Mrs Miller yn ad-dalu £45,000 ond fe benderfynodd Pwyllgor Safonau Tŷ’r Cyffredin mai dim ond cyfanswm o £5,800 oedd yn rhaid iddi ad-dalu.
Mae’r Prif Weinidog, David Cameron, wedi datgan ei gefnogaeth i Maria Miller ond dywedodd Ed Miliband, Arweinydd y Blaid Lafur, fod David Cameron wedi dangos arweiniad gwan yn y mater hwn.
Mi wnaeth Mrs Miller ymddiheuro i Dŷ’r Cyffredin yn gynharach yr wythnos hon.