Mae trigolion Afghanistan wedi bod yn ciwio i bleidleisio heddiw gan herio’r Taliban sy’n gwrthwynebu’r etholiadau democrataidd cyntaf yn y wlad.
Mae etholiadau ar gyfer arlywydd newydd ac aelodau cynghorau rhanbarthol yn cael eu cynnal. Mae’r Taliban wedi datgan y byddan nhw’n targedu gorsafoedd pleidleisio a gweithwyr etholiad. Mae 400,000 o swyddogion yr heddlu ar ddyletswydd heddiw ar draws y wlad er mwyn gwarchod y rhai sy’n dymuno pleidleisio.
Cafodd newyddiadurwraig ei lladd mewn ymosodiad yn ninas Khost ddoe.
Roedd y ffotograffydd o’r Almaen, Anja Niedringhaus, yn teithio gyda’i chyd-newyddiadurwraig Kathy Gannon o Ganada pan gawson nhw eu saethu. Bu farw Anja ac anafwyd Kathy.
Cafodd chwe aelod o’r heddlu eu lladd yn Kabul dydd Mercher.