Prif Weithredwr Cynefin, Walis George (chwith) gyda Chadeirydd y Bwrdd, John Arthur Jones a'r tenant Annie Jones (canol) a groesawodd y ddau a thenantiaid eraill i bentref Llanuwchllyn i nodi sefydlu'r gymdeithas dai newydd gydag arwyddion llechi.
Mae dwy o gymdeithasau tai mwyaf blaenllaw gogledd Cymru wedi dod ynghyd, gan ddarparu mwy na 70 mlynedd o brofiad ac arbenigedd i’w tenantiaid.
Unwyd Cymdeithas Tai Clwyd a Chymdeithas Tai Eryri i ffurfio Grŵp Cynefin, yr unig gymdeithas dai i weithredu ar draws pob un o chwe siroedd gogledd Cymru yn ogystal â gogledd Powys.
Mae Grŵp Cynefin yn darparu mwy na 3,700 o gartrefi rhent i bobl a theuluoedd ar draws gogledd Cymru, yn ogystal â mwy na 700 o dai fforddiadwy i unigolion a theuluoedd sy’n awyddus i brynu cartref.
Mentrau Cymunedol
Yn ogystal â darparu ystod eang o wasanaethau tai sy’n diwallu anghenion lleol mewn cymunedau gwledig a threfol gogledd Cymru, mae Grŵp Cynefin hefyd yn cynnal amrywiaeth o fentrau cymunedol i gefnogi ei denantiaid.
Daeth detholiad o denantiaid Grŵp Cynefin a’i brif weithredwr, Walis George, cyn brif weithredwr Cymdeithas Tai Eryri, i Lanuwchllyn i nodi’r achlysur.
Adeiladu ar gyfer y dyfodol
Dywedodd Walis George, “Drwy uno, rydym yn ychwanegu at ein gwerth ac yn adeiladu ar gyfer y dyfodol. Mae gweithio gyda’n gilydd yn atgyfnerthu’r gallu sydd gennym i ddarparu gwasanaethau dwyieithog o ansawdd uchel i’n tenantiaid a’n cwsmeriaid eraill.
“Mae Tai Eryri a Tai Clwyd wedi cydweithio mewn partneriaeth dros nifer o flynyddoedd, a thrwy gyfuno sgiliau ac arbenigedd priodol, gallwn wneud hyd yn oed mwy wrth ymateb i anghenion lleol mewn ffyrdd newydd ac arloesol.”
“Rhyngddynt, roedd gan y ddwy gymdeithas fwy na 70 mlynedd o brofiad yn sicrhau cartrefi cyfforddus i bobl ledled gogledd Cymru. Y profiad a’r arbenigedd hwnnw fydd o gymorth i Grŵp Cynefin barhau â’r etifeddiaeth gan chwarae rôl ganolog wrth gefnogi cymunedau ar draws y rhanbarth.
“Ein nod yw parhau i ddarparu cartrefi o ansawdd uchel a gwasanaethau o safon i bobl gogledd Cymru, yn ogystal â datblygu cymunedau cynaliadwy lle mae pobl yn dymuno byw.
“Ein bwriad yw gwneud gwahaniaeth – i fywydau pobl ac i gymunedau lleol – a gwneud y gwahaniaeth hynny mewn mwy o feysydd na dim ond darparu tai.”
Cadw’r holl weithwyr
O ran busnes y gymdeithas newydd, bydd yn cadw holl weithwyr Tai Clwyd a Thai Eryri, sy’n gyfwerth â chyflogi 157 o swyddi llawn amser. Mae gan Grŵp Cynefin asedau sy’n werth bron i £300 miliwn.
Bydd Grŵp Cynefin hefyd yn parhau i weinyddu ei brosiectau cymunedol presennol a mentrau cymdeithasol, gan gynnwys Canllaw, Gwledda, Cywaith, Gofal a Thrwsio Sir Ddinbych a Gorwel.
Yn ôl Annie Jones, tenant Grŵp Cynefin sy’n byw yn Llanuwchllyn, Y Bala: “Mae ffurfio Grŵp Cynefin yn gam positif – bydd yr uno yn gwneud y gymdeithas yn gryfach ar gyfer y dyfodol ac yn parhau i gynnig y gwasanaeth gwych a gawsom yn flaenorol gan Tai Clwyd.”
“O safbwynt y tenantiaid, byddwn yn parhau i gysylltu â’r un swyddogion lleol ag o’r blaen, ond bellach yn defnyddio un rhif cyswllt canolog.”
Bydd dau ddarn o lechen sydd wedi eu creu fel darn celf i ddathlu’r achlysur yn cael eu harddangos yn safleoedd Grŵp Cynefin yn Ninbych a Phenygroes, cartref prif swyddfeydd y ddwy gymdeithas dai wreiddiol.