Fe fydd y chwe chwmni ynni mawr yn wynebu ymchwiliad llawn i gystadleuaeth yn y diwydiant ar ôl i’r corff rheoleiddio Ofgem ddweud bod elw yn y sector wedi cynyddu i fwy nag £1 biliwn mewn tair blynedd.

Dywed Ofgem y bydd yr ymchwiliad gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) yn ceisio darganfod a oes yna rwystrau o fewn y diwydiant sy’n atal  cystadleuaeth effeithlon.

Yn ôl Ofgem mae cynnydd sylweddol mewn elw a chynnydd mewn prisiau ynni wedi gwneud i gwsmeriaid ddrwgdybio’r cwmnïau ac yn tanlinellu’r angen am ymchwiliad.

Mae Ofgem wedi lansio ymgynghoriad i’w cynlluniau sydd yn rhaid ei gwblhau cyn gwneud penderfyniad terfynol i gyfeirio’r mater at y CMA.

Ddoe, fe gyhoeddodd cwmni SSE ei bod yn rhewi prisiau ynni am y ddwy flynedd nesaf ond mae’r cwmni hefyd yn bwriadu cael gwared a hyd at 500 o swyddi.

Mae undeb y GMB wedi rhybuddio na fydd yr ymchwiliad yn atal prisiau biliau rhag codi ac yn rhoi swyddi yn y fantol.