Huw Vaughan Thomas
Mae adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru’n pwysleisio pwysigrwydd trin cyflyrau cronig yn y gymuned.

Mewn adroddiad a gafodd ei gyhoeddi heddiw, dywed Huw Vaughan Thomas fod angen i fyrddau iechyd wneud mwy i wella mynediad cleifion i’r fath wasanaethau.

Yn ôl yr adroddiad, mae 800,000 o bobol yng Nghymru’n nodi eu bod nhw’n dioddef o o leiaf un cyflwr cronig.

Daw mwy o bwysau ar y gwasanaeth iechyd wrth i gleifion heneiddio, gan fod cyflyrau cronig yn mynd yn fwy difrifol.

Gwelliannau

Cafodd adroddiad blaenorol yr Archwilydd Cyffredinol ei gyhoeddi yn 2008, ac mae’r adroddiad heddiw yn tynnu sylw at rai gwelliannau ers hynny.

Ymhlith y gwelliannau sy’n cael eu nodi yn yr adroddiad, mae mynediad at lefel leol i raglenni addysg cleifion er mwyn iddyn nhw reoli cyflyrau’n well ar eu pen eu hunain.

Yn ogystal, mae cyllidebau ar gyfer gwasanaethau cymunedol wedi cynyddu, ac mae mwy o nyrsys cymunedol yn trin cyflyrau cronig mewn lleoliadau cymunedol.

‘Angen gwella’

Ond dywed yr adroddiad hefyd fod angen gwella rhai meysydd penodol.

Yn ôl yr adroddiad, dydy rhai o’r cynlluniau ddim yn nodi “sut y bydd gofal yn cael ei symud o ysbytai i leoliadau cymunedol yn ddigon clir”.

Dim ond yn ystod yr wythnos mae rhai o’r gwasanaethau ar gyfer trin cyflyrau cronig ar gael, ac mae’r adroddiad yn awgrymu bod angen gwell gydlynu rhwng gwasanaethau sy’n cydweithio.

Dywed yr adroddiad fod angen rhagor o wybodaeth am y modd y caiff gwasanaethau cyflyrau cronig eu monitro.

Argymhellion

Prif argymhellion yr adroddiad yw:

  • yr angen i fyrddau iechyd ddatblygu cynlluniau sy’n datgan yn fwy eglur sut y bydd cydbwysedd gwasanaethau yn symud tuag at wasanaethau cymunedol;
  • dull mwy systematig o nodi cleifion sydd â’r risg o gael eu derbyn i’r ysbyty fel achosion heb eu cynllunio, ar sail gwerthusiad cadarn o’r dulliau presennol;
  • cyfrifoldebau mwy eglur ar gyfer gydgysylltu’r gofal y mae cleifion â chyflyrau cronig yn ei dderbyn; a
  • gwella systemau gwybodaeth a rhannu data i gefnogi cynllunio a darparu gwasanaethau gofal yn y gymuned.

‘Angen gwella addysg cleifion’

Wrth gyhoeddi’r adroddiad, dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas:

“Mae’r cynnydd sydd wedi’i wneud o safbwynt datblygu gwasanaethau ar gyfer pobl â chyflyrau cronig yn galonogol.

“Fodd bynnag, mae’n amlwg bod angen gwneud mwy i fodloni’r twf yn y galw am wasanaethau cyflyrau cronig, sy’n rhwym o ddigwydd wrth i’r boblogaeth heneiddio.

“Mae’n rhaid i’r Byrddau Iechyd barhau i ganolbwyntio ar addysg cleifion er mwyn sicrhau bod hunanofal yn gwella, yn ogystal â cheisio ehangu eu gwasanaethau cymunedol.

“I gefnogi’r gwaith hwn, mae angen gwella’r broses o gasglu gwybodaeth a data ar frys er mwyn sicrhau bod datblygiadau i wasanaethau yn cael eu cynllunio, eu monitro a’u gwerthuso’n briodol.”