Athrawon yn protestio tu allan i'r Senedd yng Nghaerdydd
Mae athrawon wedi bod yn protestio y tu allan i’r Senedd yng Nghaerdydd heddiw fel rhan o streic gan undeb athrawon yr NUT.

Buon nhw’n protestio am awr y tu allan i’r Senedd y bore ma yn erbyn polisïau a phenderfyniadau Llywodraeth Prydain ym maes addysg.

Bu cannoedd o ysgolion ynghau neu wedi eu cau yn rhannol o ganlyniad i’r streic.

Roedd disgwyl i’r undeb gynnal streiciau ym mis Tachwedd a Chwefror ond fe gawson nhw eu canslo er mwyn rhoi amser ar gyfer trafodaethau i ddatrys y mater.

‘Rhannu pryderon’

Dywed yr NUT “nad ar chwarae bach” y gwnaethon nhw’r penderfyniad i streicio.

Dywedodd Ysgrifennydd NUT Cymru, David Evans: “Mae aelodau ledled Cymru wedi mynd allan i’r strydoedd yn y trefi a’r dinasoedd yn yr wythnosau diwethaf i siarad yn uniongyrchol â rhieni ynghylch pam y bu’n rhaid iddyn nhw gymryd y cam hwn.

“Mae’r ymateb yn awgrymu bod rhan helaeth o’r cyhoedd yn rhannu ein pryderon.”

Ychwanegodd nad oedd “fawr o ddewis arall” gan athrawon heblaw streicio.

Mae cannoedd o ysgolion yng Nghymru wedi bod ar gau heddiw.

“Mewn nifer o achosion, nid yn unig maen nhw’n brwydro am degwch i athrawon, gan wrthwynebu’r toriadau cyflog a phensiynau annheg maen nhw wedi’u hwynebu, ond hefyd maen nhw’n sefyll i fyny dros union natur y gwasanaethau addysg sydd ar gael yn ein cymunedau.”

“Mae newidiadau sydd wedi cael eu cyflwyno’n ei gwneud hi lawer iawn mwy anodd i ddenu a chadw’r mwyaf disglair a’r goreuon i’r proffesiwn.

“Rydyn ni hefyd yn gweld athrawon gwych yn colli ffydd ac yn blino.

“Dydy hyn ddim yn gwneud unrhyw beth i godi safonau mewn ysgolion.”

Adran Addysg yn taro nôl

Mae’r Adran Addysg wedi beirniadu’r streic gan NUT, gan ddweud bod “ychydig iawn” o gefnogaeth i weithredu diwydiannol.

Dywedodd llefarydd fod yr NUT wedi “ceisio creu cymaint o anhrefn i ddisgyblion a rhieni â phosibl”.

Ychwanegon nhw na fyddai “rhieni’n deall pam fod yr NUT yn streicio tros fesurau’r Llywodraeth i alluogi penaethiaid i dalu mwy i athrawon da”.

Yn ôl yr Adran Addysg, mae’r streic wedi “amharu ar fywydau rhieni, ar addysg plant ac wedi niweidio enw da’r proffesiwn”.

Yn ôl y ffigurau sydd wedi cael eu cyhoeddi hyd yma, roedd tua 800 o ysgolion yng Nghymru ynghau neu wedi’u cau yn rhannol.

Roedd yr Ysgrifennydd Addysg, Michael Gove wedi anfon llythyr at ysgolion ddoe mewn ymgais munud olaf i atal y streic, gan danlinellu’r cynnydd a wnaethpwyd ym maes addysg.