Jimmy Tarbuck
Mae’r digrifwr Jimmy Tarbuck wedi cael ei ryddhau’n ddi-gyhuddiad ar ôl cael ei arestio ynglŷn â honiadau o droseddau rhyw hanesyddol.

Cafodd Tarbuck, 74 oed, ei arestio ym mis Ebrill y llynedd gan Heddlu Gogledd Sir Efrog ar ôl iddyn nhw dderbyn gwybodaeth gan dditectifs sy’n rhan o’r ymchwiliad i droseddau rhyw, Operation Yewtree.

Nid oedd yr heddlu wedi datgelu ei enw ond fe wnaethon nhw gadarnhau bod dyn 74 oed o Kingston upon Thames wedi cael ei ryddhau yn ddi-gyhuddiad yn dilyn ymchwiliad i honiadau hanesyddol o gam-drin rhywiol.

Dywedodd yr heddlu bod y wybodaeth wedi cael ei chyfeirio at Wasanaeth erlyn y Goron ond eu bod wedi penderfynu peidio parhau a’r achos.

Roedd Tarbuck wedi cael ei gyhuddo o ymosod ar fachgen ifanc yn y 70au hwyr yn Harrogate.

Mae Tarbuck yn fwyaf adnabyddus am gyflwyno sioeau teledu megis Winner Takes All a Full Swing.