David Cameron
Ni fydd cynhadledd yr G8 yn cael  ei chynnal yn Rwsia eleni, meddai David Cameron cyn  cyfarfod gydag arweinwyr y G7 yn Yr Hag.

Mae’n arwydd o’r ymdrechion diweddaraf i ynysu Moscow yn dilyn ei ymyrraeth yn yr Wcráin.

Dywedodd y Prif Weinidog: “Gadewch i ni fod yn hollol glir – ni fydd cynhadledd yr G8 yn cael ei chynnal eleni yn Rwsia.”

Roedd trefniadau ar gyfer y gynhadledd yn Sochi ym mis Mehefin eisoes wedi cael eu gohirio o ganlyniad i weithredoedd Rwsia yn yr Wcrain.

Fe fydd David Cameron, Arlywydd America Barack Obama ac arweinwyr eraill mwyaf cyfoethog y byd yn  trafod dyfodol Rwsia o fewn y sefydliad yn dilyn pryderon am gyrch milwrol diweddaraf Rwsia yn nwyrain y Wcráin.

Dywedodd David Cameron bod adroddiadau bod lluoedd Rwsia yn ymgynnull ar ffin yr Wcrain yn “bryderus” ac fe rybuddiodd yr Arlywydd Vladimir Putin y byddai rhagor o sancsiynau’n dilyn os yw ei luoedd yn symud yn agosach at diriogaeth yr Wcrain.

Fe fydd gwledydd eraill yr G8 – y DU, Unol Daleithiau, yr Almaen, Ffrainc, yr Eidal, Canada a Siapan yn cwrdd heno.

Mae pryderon am yr argyfwng yn cynyddu gyda phennaeth NATO yn Ewrop yn rhybuddio heddiw bod lluoedd Rwsia sydd ar y ffin a’r Wcráin  “yn sylweddol iawn ac yn barod iawn” i weithredu.

Yn y cyfamser mae llywodraeth yr Wcrain wedi gorchymyn ei milwyr i adael y Crimea ar ôl i luoedd Rwsia feddiannu nifer o safleoedd milwrol yn y rhanbarth.