Bill Walker (Llun - Senedd yr Alban)
Mae cyn aelod o Senedd yr Alban wedi cael ei ryddhau o’r carchar ar ôl dim ond chwech mis o ddedfryd am drais yn y cartre’.

Roedd Bill Walker wedi cael ei ddedfrydu i 12 mis am bron 30 o flynyddoedd o gam-drin yn erbyn ei dair cyn-wraig a’i lysferch.

Roedd wedi ei gael yn euog o 23 o wahanol gyhuddiadau.

Roedd yr aelod annibynnol tros etholaeth Dunfermline – cyn aelod o’r SNP – wedi gwadu’r holl gyhuddiadau’n ei erbyn, ond fe gafodd ei ddyfanru’n euog ar ôl wythnos o achos yn Llys Sirol Caeredin.