Clarissa Dickson Wright
Mae’r gogyddes deledu a’r ddarlledwraig Clarissa Dickson Wright wedi marw yn 66 oed.

Roedd hi’n fwyaf adnabyddus am ei rhan yn y rhaglen Two Fat Ladies gyda’r gogyddes Jennifer Paterson, a fu farw yn 1999.

Fel bargyfreithiwr y dechreuodd Clarissa Dickson Wright ei gyrfa cyn iddi weithio fel cogyddes, gan ymuno a Paterson ym 1996 ar gyfer cyfres goginio’r BBC Two Fat Ladies.

Dywedodd ei hasiant Heather Holden-Brown a Elly James: “Roedd Clarissa yn barod i ymladd am yr hyn roedd hi’n credu ynddo heb feddwl amdani hi ei hun, ac roedd yn cael ei charu gan ei ffrindiau a’i chefnogwyr ar draws y byd.”

Bu farw mewn ysbyty yng Nghaeredin ddydd Sadwrn ar ol salwch byr.