Charles Kennedy
Mae cyn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Charles Kennedy, wedi rhybuddio na fydd dadleuon yr unoliaethwyr yn erbyn annibyniaeth i’r Alban yn debygol o atseinio gyda phleidleiswyr yn y refferendwm.
“Fe wnawn ni ein penderfyniad ein hunain, diolch yn fawr iawn,” fydd ymateb Albanwyr i’r ymgyrch yn erbyn annibyniaeth sy’n cael ei redeg o San Steffan. Dyna farn yr AS Charles Kennedy.
Mae Kennedy hefyd wedi galw ar yr ymgyrch Na i fod yn fwy positif a bod angen iddyn nhw amlinellu cynllun cliriach o beth fyddai’n digwydd petai trigolion yr Alban yn pleidleisio yn erbyn annibyniaeth ym mis Medi.
Lansiwyd yr ymgyrch yn erbyn yn 2012 gyda’r neges y gallai’r Alban fod yn wlad annibynnol lwyddiannus, ond y byddai’n gryfach o fewn y DU.
‘Cynlluniau mwy pendant’
Ers hynny, mae pleidiau unoliaethol wedi dweud na allai’r Alban ddefnyddio’r bunt sterling petae nhw’n pleidleisio dros annibyniaeth ac maen nhw hefyd wedi tynnu sylw at gynnydd posib yn nyledion y wlad oherwydd gostyngiad mewn refeniw olew.
Mae pob plaid wleidyddol wedi cynnig cynllun datganoli cryfach i’r wlad petai’r Alban yn pleidleisio Na ond does neb wedi amlinellu beth fyddai’r pwerau hynny.
Dywedodd Charles Kennedy ei fod yn credu y dylai’r pleidiau gwleidyddol sydd yn erbyn annibyniaeth amlinellu cynlluniau mwy pendant at y dyfodol cyn i’r refferendwm ddigwydd.
Dywedodd Sarah-Jane Walls, cyfarwyddwr ymgyrchoedd yr ymgyrch Ie: “Nid dyma’r tro cyntaf i Charles Kennedy awgrymu y dylai’r ymgyrch Na fod yn fwy positif.
“Yn anffodus, nid dyma’r tro cyntaf y bydd ei alwadau am ddadl resymol yn cael ei anwybyddu yn gyfan gwbl chwaith.
“Dyw pleidlais yn erbyn annibyniaeth ddim yn gwarantu newidiadau. Yr unig ffordd all yr Alban ennill y pwerau ychwanegol mae hi eu hangen yw gydag annibyniaeth, a’r unig ffordd i wneud hynny yw petai pobl yn pleidleisio Ie ar 18 Medi.”