William Hague
Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi cytuno i osod gwaharddiadau teithio a rhewi asedau 21 o swyddogion o Rwsia a’r Wcrain sy’n gysylltiedig ag aflonyddwch yn y Crimea.
Mae gweinidogion tramor yr Undeb Ewropeaidd wedi cytuno ar y sancsiynau yn dilyn cyfarfod ym Mrwsel, ar ol i Ysgrifennydd Tramor Prydain William Hague ddweud y byddai’n anfon “neges glir” ynglyn a gweithredoedd Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin.
Mae William Hague hefyd wedi rhybuddio y bydd Moscow yn wynebu canlyniadau mwy difrifol os nad yw’n ceisio lleihau’r tensiynau yn yr Wcrain.
Daeth y sancsiynau ychydig oriau ar ôl i senedd y Crimea ddatgan fod y rhanbarth yn annibynnol ar ol i 96% o’r trigolion bleidleisio o blaid gadael yr Wcráin ac ymuno â Rwsia mewn refferendwm ddadleuol ddoe.
Mae disgwyl i Frwsel gyhoeddi enwau’r swyddogion sy’n cael eu heffeithio gan y sancsiynau pryhawn ma a bydd y gwaharddiadau yn dod i rym am hanner nos.
Mae’r Tŷ Gwyn hefyd wedi bygwth sancsiynau gan ddweud bod gweithredoedd Rwsia yn “beryglus ac yn achosi ansefydlogrwydd.”