Nigel Evans
Mae’r Aelod Seneddol Michael Fabricant wedi dweud wrth lys ei fod yn credu bod honiadau a glywodd bod Nigel Evans  wedi ymosod yn rhywiol ar ddyn ifanc “yn groes i’w gymeriad”.

Dywedodd yr AS Ceidwadol wrth Lys y Goron Preston ei fod wedi clywed yr honiadau gan Adam Price, cyn Aelod Seneddol Plaid Cymru, dros y ffôn ym mis Gorffennaf 2009.

Roedd Adam Price wedi siarad gyda’r dyn ifanc sy’n honni i Evans ymosod arno pan oedd yn cysgu ar y soffa yn ei gartref.

“Rwy’n cofio yn eithaf eglur beth a ddywedwyd, am fy mod wedi meddwl ei bod hi’n groes i gymeriad y Nigel Evans yr oeddwn i’n ei nabod,” meddai’r AS sy’n Gadeirydd y Blaid Geidwadol.

Ychwanegodd Michael Fabricant ei fod yn “ffrindiau da” gyda Nigel Evans.

Mae Nigel Evans, 56 oed, sy’n enedigol o Abertawe ac yn Aelod Seneddol Ribble Valley yn Sir Gaerhirfryn, yn wynebu naw cyhuddiad o droseddau rhyw yn erbyn saith o ddynion sy’n dyddio o  2002 hyd at 1 Ebrill y llynedd.

Mae cyn-ddirprwy lefarydd Tŷ’r Cyffredin yn gwadu dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus, chwe chyhuddiad o ymosod yn rhywiol ac un cyhuddiad o dreisio.

Mae’r achos yn parhau.