Mae clwb Lleng Brydeinig yn Llundain wedi cael ei ddifrodi’n ddifrifol, yn dilyn tân.
Fe gafodd wyth o griwiau Brigad Dân Llundain eu galw i’r digwyddiad yn Hounslow, gorllewin Llundain, toc wedi 4.30yp ddydd Sadwrn, Mawrth 15.
Fe gymrodd hi dros dair awr i’r fflamau gael eu diffodd yn llwyr yn yr adeilad deulawr, a 60 o ymladdwyr.
“Roedd llawer iawn o fwg yn yr ardal, felly roedd yn rhaid i ni ofyn i bobol leol gau eu ffenestri,” meddai llefarydd ar ran y Gwasanaeth Achub.
“Er bod y fflamau wedi’u diffodd, fe fydd ymladdwyr yn gorfod bod ar y safle am beth amser er mwyn gwneud yn siwr fod yna ddim peryg o unrhyw fudlosgi.”
Chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad, ac mae ymchwilwyr yn ceisio gweithio allan sut yn union y dechreuodd y tân a oedd, ar ei waetha’, yn anfon cwmwl o fwg hyd at 50 troedfedd i’r awyr trwy’r to.